David Cameron
Mae’r Prif Weinidog, David Cameron yn mynnu ei fod am gynnal pleidlais ar newid ffiniau etholaethau ar draws y wlad er gwaethaf rhybudd y Democratiaid Rhyddfrydol eu bod am wrthwynebu’r cynllun.

Ddoe, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg y byddai’n gorchymyn ei blaid i bleidleisio yn erbyn ffiniau newydd ar ol i’r Ceidwadwyr wrthwynebu ei gynlluniau  i ddiwygio Ty’r Arglwyddi.

Mae’r ffrae wedi tanlinellu’r berthynas fregus rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Llywodraeth Glymblaid.

Gallai ail-luniadu ffiniau etholaethau olygu 20 o seddi ychwanegol i’r Ceidwadwyr, a byddai hynny’n ddigon i sicrhau buddugoliaeth lawn i’r blaid yn yr etholiad cyffredinol.

‘Pleidlais am fynd yn ei blaen’

Ategodd David Cameron ei safbwynt yn ystod ei ymweliad â chanolfan weithgareddau yng nghanolbarth Cymru heddiw.

Awgrymodd ei fod am fynd ati gyda’r bleidlais yn yr hydref.

Mae’n annhebygol o ennill y bleidlais gan fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn debygol o uno gyda gwrthwynebwyr o’r Blaid Lafur.

Dywedodd David Cameron: “Rydym am i’r bleidlais ar newid ffiniau fynd yn ei blaen.”

Ar fater diwygio Tŷ’r Arglwyddi, dywedodd y Prif Weinidog: “Daeth hi’n eglur iawn i mi nad oedd y Blaid Lafur ac eraill yn y Senedd yn mynd i ganiatáu diwygio’r Arglwyddi.

“Doeddwn i ddim yn mynd i gael misoedd o ymrafael.”

Ychwanegodd David Cameron fod rhoi’r cynllun o’r neilltu yn gyfle i’r gweinidogion ganolbwyntio ar yr economi.

Jeremy Browne yw’r gweinidog cyntaf o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol i gadarnhau y bydd yn pleidleisio yn erbyn cynlluniau’r Ceidwadwyr i newid ffiniau etholaethau.