Shayne Colaco
Mae criwiau achub tir ac awyr yn chwilio am gerddwr profiadol 33 oed sydd wedi bod ar goll yn ardal Tryfan ers dydd Sadwrn.
Credir bod Shayne Colaco, o Stoke on Trent, wedi cychwyn ar ei ben ei hun ar hyd llwybr i fyny mynydd Tryfan, gan adael ei gar, Fiat Seicento, ger Canolfan Ogwen.
Dywedodd yr Arolygydd Dan Moss eu bod wedi dod o hyd i wybodaeth yng nghar Shayne Colaco oedd yn awgrymu ei fod wedi cerdded o Lyn Ogwen i fyny Tryfan.
“Roedd wedyn yn bwriadu cerdded yn ôl tuag at Gwm Bochlwyd, heibio Llyn Bochlwyd, ac ar hyd yr A5 i Gapel Curig,” meddai.
Dywed yr heddlu bod Shayne yn gerddwr profiadol a’i fod yn gwisgo dillad tebyg i’r rhai yn y llun.
Mae Heddlu’r Gogledd apelio ar unrhyw un a allai fod wedi ei weld i gysylltu â nhw ar 101.