David Cameron yn y Fenni
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi annog plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau mewn canolfan chwaraeon ger Y Fenni.

Bu’r Prif Weinidog ar ymweliad â’r ganolfan bore ma yn ystod ei daith o amgylch gwledydd Prydain.

Mae rhaglen chwaraeon i bobl ifanc yn y ganolfan yn cael ei noddi gan Wasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol Llywodraeth Prydain.

Cymerodd y Prif Weinidog ran mewn nifer o weithgareddau, gan gynnwys helpu pobl ifanc i ddringo wal ddringo fawr.

Ac roedd yn barod iawn i gynnig cyngor i’r criw wrth iddyn nhw fynd i’r afael â dringo gwifren ac ysgol bren 30 troedfedd yn yr awyr.

‘Anelu am y sêr’

Dywedodd David Cameron y bydd 30,000 o leoedd ar gael ar gyfer y cyrsiau preswyl eleni, gyda dwywaith y nifer ar gael y flwyddyn nesaf.

Dywedodd: “Pe bai pawb yn mynd i’w wneud e, byddai angen 60,000 o leoedd arnom bob blwyddyn.”

“Rwy’n credu y dylen ni geisio anelu am y sêr a cheisio cael pawb i’w wneud e.”

Ychwanegodd pennaeth y Sgowtiaid, Bear Grylls: “Rwy’n credu bod yr hyn y mae’r Prif Weinidog wedi’i ddechrau yma’n wych. Nid diffyg uchelgais sydd gan blant ond diffyg cyfle.”

Roedd yr anturiaethwr enwog yn cadw cwmni i David Cameron yn ystod yr ymweliad.

Mae canolfannau tebyg ledled Prydain yn awyddus i fanteisio ar y Gemau Olympaidd er mwyn hybu manteision chwaraeon i blant a phobl ifanc.