Llys Ynadon Abertawe
Mae cynghorydd cymunedol o Abertawe wedi cael ei garcharu am 4 mis am guro ei fam 87 oed.

Clywodd Llys Ynadon Abertawe bod Simon Arthur, 44, wedi curo ei fam, Isabelle Arthur,  gymaint o weithiau fel ei bod yn cysgu yn ei char er mwyn ei osgoi.

Mae Simon Arthur yn gynghorydd cymunedol y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Mwmbwls.

Roedd wedi ymosod ar ei fam ar 21 Gorffennaf a chafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ  yn Summerland Lane, yn Newton.

Roedd Arthur wedyn  wedi bygwth plismon gyda chyllell pan ddaeth yr heddlu i’r tŷ yn ystod oriau mân y bore trannoeth.

Dywedodd Arthur yn ddiweddarach nad oedd yn cofio’r ymosodiad a’i fod wedi yfed mwy na photel o win.

Cafodd ei garcharu heddiw ar ôl cyfaddef ymosod ar ei fam ac ymosod ar blismon.

Mae Arthur wedi bod yn gysylltiedig â chwe achos o drais yn y cartref yn erbyn ei fam ers mis Awst y llynedd.

Mae’r llys hefyd wedi cyhoeddi gorchymyn ataliol sy’n atal Arthur rhag byw gyda’i fam pan fydd yn cael ei ryddhau o’r carchar.

Mae cangen leol y Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwahardd Arthur ac mae disgwyl iddo gael ei ddiarddel.