Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am yr  iaith Gymraeg wedi dweud y gall y Brifwyl dderbyn mwy o nawdd cyhoeddus – os yw’n addasu i’r byd modern.

Mewn cyfweliad ar BBC Radio Cymru heddiw dywedodd Leighton Andrews y bydd yn cwrdd gyda threfnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Medi a bod posibilrwydd y bydd y Llywodraeth yn rhoi mwy na’r hanner miliwn o bunnau y mae’n rhoi yn flynyddol ar hyn o bryd.

Ond dywed Leighton Andrews y byddai angen i’r ŵyl foderneiddio a “newid yn y byd modern.” Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at drafod y ffordd orau o ddefnyddio’r arian cyhoeddus gyda threfnwyr yr Eisteddfod.

Mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi dweud fod y Gweinidog “wastad yn barod i drafod mwy o gyllid i’r Eisteddfod os gellir cyflwyno achos o blaid hynny.”

Mae’n debyg bod Llywodraeth Cymru am weld yr Eisteddfod yn defnyddio mwy o dechnoleg ac yn apelio at fwy o bobol ddi-Gymraeg.