Bydd yr actor Richard E Grant, a ddaeth i enwogrwydd am chwarae’r brif ran yn y ffilm ‘Withnail and I’, yn chwarae dihiryn yn y rhifyn Nadoligaidd o ‘Doctor Who’ eleni.

Steven Moffat, bos y rhaglen sydd wedi ysgrifennu’r pennod, a bydd yn cychwyn ffilmio yng Nghaerdydd wythnos yma.

Mae Richard E Grant eisoes wedi chwarae rhan ‘Doctor Who’ mewn fersiwn wedi’i animeiddio.

Yn ymuno ag o fydd seren y gyfres deledu ‘Silent Witness’, Tom Ward.

“Fe wnes i chwarae rhan ‘Doctor Who’ yn y rhaglen a oedd wedi’i animeiddio, ‘Scream of the Shalka’, ac mae’n fraint cael bod yn y rhifyn Nadoligaidd arbennig,” meddai Richard Grant.

Cyn i’r rhifyn Nadoligaidd gael ei darlledu, mi fydd y gyfres eisoes wedi dychwelyd i’r sgrin fach, gydag wyth rhaglen ychwanegol flwyddyn nesaf.