Ieuan Wyn Jones
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, wedi dweud heddiw fod gan yr adferiad economaidd ffordd bell i fynd o hyd.

Mae ystadegau gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol  bore ma yn dangos bod nifer y bobol mewn cyflogaeth yng Nghymru ar gynnydd.

Roedd 10,000 yn rhagor o bobol mewn gwaith yn chwarter olaf 2010 o’i gymharu â’r chwarter blaenorol.

Ond roedd nifer y bobol ddi-waith hefyd wedi cynyddu 5,000, o’i gymharu â’r tri mis blaenorol.

“Mae nifer y bobol sy’n ennill cyflog yng Nghymru wedi cynyddu 30,000 yn ystod 2010,” meddai Ieuan Wyn Jones.

“Serch hynny mae yna hefyd gynnydd wedi bod yn nifer y bobol sy’n hawlio budd-daliadau ac mae hynny’n dangos fod gan yr adferiad ffordd bell i fynd eto.

“Rydyn ni’n canolbwyntio cant y cant ar gefnogi economi Cymru a gwneud popeth yn ein gallu i greu swyddi drwy gydol y wlad a helpu’r sector breifat i dyfu.”

Dywedodd fod Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi cynllun £5 o’r enw Asapt er mwyn darparu hyfforddi, cyngor ac arweiniad i staff y sector gyhoeddus.

Toriadau

Mae Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru yn dweud y bydd y toriadau yn effeithio ar 4,000 o’r 163,000 o weithwyr cyngor yn y wlad.

“Rydyn ni’n rhagweld y bydd yna doriadau sylweddol mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn 2011,” meddai’r prif weithredwr Steve Thomas.