Rheilffordd Eryri
Mae’r heddlu yn galw am wybodaeth ar ôl i bobol daflu meinciau haearn ar drac rheilffordd ym Meddgelert.

Daethpwyd o hyd i bedair mainc ar draciau Rheilffordd Eryri ger gorsaf drenau’r pentref.

Maen nhw’n credu bod y meinciau wedi eu taflu ar y rheilffordd prynhawn dydd Mercher, 9 Chwefror.

Doedd yna ddim difrod i’r traciau na’r trenau stem sy’n rhedeg arnynt  ond roedd ddifrod i’r meinciau.

Mae’r meinciau yn drwm ac mae’r heddlu yn credu y byddai angen grŵp o bobol i’w codi.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 neu 0845 6071001, neu ffonio Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.