Glyn Davies
Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Maldwyn wedi lladd ar Brif Weinidog Cymru am “fradychu” canolbarth Cymru gan ddweud bod prosiect trydan y Grid Cenedlaethol yng nghanolbarth Cymru yn “rheibio ein cartref.”

Mewn sylwadau ar wefan Twitter dywed Glyn Davies na fydd pobol canolbarth Cymru fyth yn ymddiried yn Carwyn Jones eto.

Neithiwr roedd swyddogion y Grid Cenedlaethol yn y Trallwng er mwyn cwrdd â’r cynghorwyr lleol,  ac roedd rua 200 o ymgyrchwyr yno er mwyn lleisio eu gwrthwynebiad i godi gorsaf drydan yng Nghefn Coch a chludo’r trydan i Loegr ar beilonau.

Y bore ma roedd mudiad Cadwraeth Ucheldir Powys, sy’n ymgyrchu yn erbyn melinau gwynt, wedi beirniadu’r Cynulliad Cenedlaethol am fethu ag amddiffyn canolbarth Cymru.

“Roedden ni wedi gobeithio y byddai Cynulliad Cymru wedi edrych ar ôl buddiannau Cymru yn well na San Steffan, ond nid felly mae wedi bod,” meddai Alison Davies, Cadeirydd y mudiad.

“Mae ceisiadau yn cael eu hystyried nawr ar gyfer codi 815 o dyrbeini gwynt yng ngogledd Powys. Mae’r mwyafrif ohonyn nhw ar dir y Comisiwn Coedwigaeth, a phwy sy’n rheoli’r Comisiwn ond y Cynulliad,” meddai Alison Davies.