Diffoddwr wrth ei waith

Fe fydd Cymru’n symud yn nes heddiw at ddeddf sy’n mynnu bod rhaid gosod systemau chwistrellu dŵr ym mhob tŷ newydd.

Mae Mesur sydd wedi ei gynnig gan yr AC Ann Jones yn cael ei weld yn gam pwysig at atal tanau ac arbed bywydau.

Mae wedi cael ei gefnogi gan y gwasanaethau heddlu a thân sy’n dweud bod chwistrellwyr dŵr yn fwy effeithiol na larymau mwg.

Yn ôl Ann Jones ei hun, mae naw o bob deg marwolaeth mewn tân yn digwydd oherwydd diffyg chwistrellwyr.

Roedd wedi cynnig y syniad i ddechrau yn 2007 ac, ym mis Ionawr y llynedd, fe gefnogodd y Cynulliad  orchymyn yn gofyn am yr hawl i ddeddfu yn y maes.