Cafodd dyn 22 oed ei garcharu am chwe mis heddiw ar ôl iddo ymddwyn yn dreisgar tuag at aelodau o’r cyhoedd ar ol cymryd steroids.

Roedd Nicholas Wilson o Ben-bre, Caerfyrddin, wedi torri i mewn i dŷ ei ffrind ddiwrnod ar ôl iddo fod mewn parti yno fis Medi’r llynedd.

Mynnodd fod ei ffrind yn gadael y tŷ yn droednoeth cyn rhedeg ar ei ôl gyda darn o wydr wedi’i gymryd o ffenestr y drws ffrynt a oedd eisoes wedi’i thorri.

Aeth yn ei flaen i daro unrhyw beth ac unrhyw un o fewn golwg iddo am oriau cyn i’r heddlu, gyda chymorth hofrennydd, ddod â’r terfysg i ben.

Mae’n debyg fod ei ddefnydd o steroids wedi arwain at ei ymddygiad treisgar.

Dywedodd y barnwr, Paul Thomas, yn Llys y Goron Abertawe heddiw, fod defnyddio steroids yn gallu achosi  “colli tymer catastroffig.”

Clywodd y llys bod Nicholas Wilson wedi ymosod ar sawl person gan gynnwys dyrnu ffermwr; llusgo beiciwr oddi ar ei feic a’i daro drachefn; gwneud difrod i gar BMW; ac ymddwyn yn ymosodol tuag at barafeddygon oedd yn ei drin am fan anafiadau.