Mae Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg wedi cyhoeddi bod y gronfa leol wedi cyrraedd ei tharged ariannol.

Cafodd targed o £300,000 ei osod, a llwyddodd y Gronfa i godi £312,500.

“Mae cefnogaeth trigolion y Fro wedi bod yn arbennig,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Dylan Jones.

“Mae’r gweithgareddau’n dal i barhau, er mai dyddiau’n unig sydd i fynd cyn agoriad swyddogol yr Eisteddfod, ac mae’r arian yn dal i lifo i mewn.

“Yn ddi-os, mae ymweliad yr Eisteddfod â’r ardal wedi dod â chymunedau ynghyd, a gobeithio y pery hyn ar ôl diwedd yr wythnos nesaf.”

Dywedodd Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod, fod y targed yn “dipyn o her ar unrhyw adeg, ond yn enwedig yn ystod cyfnod o gyni economaidd.

“Rydym wedi cael dwy flynedd arbennig iawn yn gweithio gyda thrigolion y Fro, a chyda’r gwirfoddolwyr lleol.

“Mawr yw ein diolch i bawb am eu croeso ac am y cydweithrediad parod a chyfeillgar wrth baratoi ar gyfer yr wythnos.  Gobeithio y cawn Brifwyl i’w chofio yn y Fro’r wythnos nesaf fel pinacl i’r holl baratoadau a’r gwaith ar hyd a lled y dalgylch,” meddai Hywel Wyn Edwards.

Mae’r Brifwyl yn dechrau ddydd Sadwrn, ar dir hen faes awyr Llandw ger y Bontfaen.