Mae disgwyl gwrthdystiad heddiw y tu allan i Neuadd Dref y Trallwng pan fydd swyddogion o’r Grid Cenedlaethol yn cwrdd â chynghorwyr y dref.

Ddoe cyhoeddodd y Grid Cenedlaethol eu bod nhw wedi dewis lleoli gorsaf drydan yng Nghefn Coch ger Llanfair Caereinion, a fydd yn cyfeirio trydan ar beiolonau trwy ddyffryn Efyrnwy i Loegr.

Mae ymgyrchwyr yn trefnu gwrthdystiad yn y Trallwng o 4 o’r gloch ymlaen tra bydd cynghorwyr y Trallwng yn cwrdd gyda swyddogion y Grid.  Mae’r cynghorwyr eisoes wedi lleisio eu gwrthwynebiad i “effeithiau annerbyniol” melinau gwynt a pheilonau ym Maldwyn.

Mewn tystiolaeth i’r Cynulliad y llynedd dywedodd Cyngor Tref y Trallwng fod “effaith y llinell beilon (50m o uchder), yr orsaf drydan (maint 20 cae pêl-droed) a’r ffermydd gwynt y tu hwnt i’r hyn y dylai unrhyw gymuned ei ddioddef mewn ardal ddinesig, heb sôn am ardal wledig.”

Neithiwr roedd rhai cannoedd o brotestwyr wedi dod ynghyd  yng Nghefn Coch er mwyn lleisio eu gwrthwynebiad i’r cyhoeddiad mai yno fydd yr orsaf drydan.

Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi dweud eu bod nhw’n” siomedig iawn” nad yw’r Grid Cenedlaethol yn ymrwymo i ddefnyddio  ceblau tanddaearol i gludo’r trydan trwy Bowys, a’u bod nhw wedi eu synnu fod Cefn Coch wedi ei ddewis fel lleoliad ar gyfer yr orsaf yn hytrach nag Abermiwl, sy’n nes at y Grid yn Lloegr.