Mae Aelod Seneddol Maldwyn wedi dweud fod cyhoeddiad y Grid Cenedlaethol heddiw am leoliad is-orsaf drydan ym Mhowys yn ddechrau ar “frwydr dyrnau.”

Y bore ‘ma mae disgwyl i’r Grid Cenedlaethol gyhoeddi lleoliad is-orsaf drydan a fydd yn derbyn cyflenwad trydan gan felinau gwynt ac yn ei gyfeirio at beilonau i Loegr.

Mae Glyn Davies AS wedi disgrifio’r is-orsaf fel “anghenfil” a dywedodd y bydd y peilonau yn “grotèsg.” Mae wedi gofyn i’r Grid Cenedlaethol atal y prosiect i godi is-orsaf gan fod gwrthwynebiad cryf yn lleol.

Safleoedd

Y ddau safle sy’n cael eu hystyried yw Abermiwl, ger y Drenewydd, a Chefn Coch i’r gorllewin o Lanfair Caereinion.  Mae opsiynau gwahanol yn cael eu hystyried ar gyfer y coridorau o beilonau a fydd yn cario’r trydan i Swydd Amwythig. O Abermiwl yr opsiynau yw dyffrynnoedd Hafren, Efyrnwy, a Chamlad, ac o Gefn Coch bydd Dyffryn Meifod yn cael ei ddefnyddio.

Mae disgwyl i’r Grid Cenedlaethol gyhoeddi lleoliad yr is-orsaf a’u dewis mwyaf ffafriol nhw ar gyfer y llwybr, mewn cyfarfod yng ngwesty’r Royal Oak yn y Trallwng y bore ma.

Yn gynharach eleni dywedodd rheolwr y prosiect, Jeremy Lee, y bydd yn “cael effaith am flynyddoedd maith i ddod” a’i fod yn hanfodol fod y Grid Cenedlaethol yn gwneud y penderfyniad cywir.