Llys y Goron Caernarfon
Mae tad wedi cyfaddef i ddynladdiad ei wraig a’i blentyn dwy oed.
Roedd David Wyn Jones, 42, wedi lladd Suzanne Jones, 34, a William Jones yn eu cartref ym Mhwllgoleulas ger Tremadog ar 30 Mawrth.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i Deras Glanmorfa yn gynharach eleni a darganfod fod y ddau wedi marw yn y fan a’r lle.
Yn Llys y Goron Caernarfon y prynhawn yma, roedd David Wyn Jones wedi gwadu llofruddiaeth ond wedi cyfaddef i ddynladdiad ei deulu.
Fe dderbyniodd Gwasanaeth Erlyn y Goron nad oedd David Wyn Jones yn ei iawn bwyll.
Fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn ddiweddarach.