Mae NFU Cymru wedi penderfynu na fydden nhw’n protestio yn erbyn prisiau llaeth yn ystod y Gemau Olympaidd yn dilyn cyfarfod yn Y Trallwng bore ma.

Daeth ffermwyr a chynhyrchwyr llaeth i gytundeb yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd wythnos diwethaf er mwyn rheoli’r berthynas rhwng prynwyr a chyflenwyr llaeth.

Dywedodd is-gadeirydd Bwrdd Llaeth NFU Cymru, Jonathan Wilkinson, “Does gennym ni ddim bwriad i atal mwynhad y cyhoedd yn ystod y Gemau Olympaidd felly yn ystod y cyfnod hwnnw bydd ein hymgyrch ond yn cynnwys trafodaethau pellach gyda’r cwmniau prosesu.

“Ar ôl dros bythefnos o ymgyrchu, mae’r cwmniau prosesu mawr wedi cytuno i ollwng y bwriad i wneud toriadau ar gyfer 1 Awst.

“Dyma oedd un o’n prif fwriadau ni pan ddechreuon ni’r broses ond dim ond un cam ydi o tuag at ddatrysiad tymor hir.

“Ond os yw’r trafodaethau hynny’n methu, rydym ni’n ddigon parod i brotestio unwaith eto i sicrhau cyfiawnder a thegwch i gynhyrchwyr llaeth,” ychwanegodd.

Cefndir

Mae’r NFU wedi bod yn rhybuddio bod cynhyrchu litr o laeth bellach yn costio mwy i’r ffermwyr na’r hyn maen nhw’n ei gael am eu cynnyrch.

Mae archfarchnadoedd Co-operative a Morrisons wedi ymateb i’r ymgyrch drwy gynyddu faint maen nhw’n ei dalu i ffermwyr am laeth.

Fe fydd Asda yn talu 2c ychwanegol y litr i ffermwyr llaeth o 1 Awst ymlaen.

Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru, mae nifer y ffermwyr llaeth wedi gostwng 800 mewn pum mlynedd.