Stacey Thompson
Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth i geisio dod o hyd i ddynes sydd wedi bod ar goll yn Nhywyn ers dydd Sadwrn.

Cafodd Stacey Louise Thompson, 19 oed, o Benbedw ar Lannau Mersi, ei gweld y tro diwethaf yn Nhir Prins yn Nhywyn, Conwy, am 4.30yh ar brynhawn dydd Sadwrn, 28 Gorffennaf.

Roedd hi ar ddiwrnod allan gyda’i theulu ond fe fethodd a dychwelyd i fan cyfarfod cyn mynd yn ôl i Benbedw.

Mae’r heddlu yn ei hystyried yn ferch “fregus” gan fod ganddi anableddau dysgu.

Mae Stacey Thompson yn 5’ 6’ o daldra, o faint canolig gyda gwallt tywyll wedi’i glymu’n ôl. Roedd hi’n gwisgo trowsus llwyd a top llwyd ac oren pan ddiflannodd.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un  sydd â gwybodaeth neu sydd wedi ei gweld i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.