Cheryl Gillan
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan yn croesawu busnesau o bedwar ban y byd i Lundain heno, mewn noson arbennig yn y Parc Olympaidd.

Mae disgwyl i gynrychiolwyr o fusnesau Cymreig, gan gynnwys General Dynamics a Tata Steel fod yn bresennol yng nghlwb East Albion, ynghyd â chynrychiolwyr o Fasnach Allanol Siapan a Siambr Fasnach Rwsia-Prydain.

Bydd y noson yn hybu busnesau Cymreig ac yn nodi llwyddiannau nifer o fusnesau yng Nghymru sydd eisoes yn cael dylanwad ar raddfa fyd-eang.

Mae nifer o gyfarfodydd tebyg yn cael eu cynnal yn ystod y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd er mwyn dathlu busnesau ledled Prydain, ac i fagu cysylltiadau â busnesau tramor.

‘Atgyfnerthu’r cyfleoedd’

Dywedodd Cheryl Gillan: “Yr haf hwn, bydd y byd yn gwylio’r athletwyr gorau yn perfformio yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012. Wrth i Gymru gynnal 16 o safleoedd hyfforddi Olympaidd, yn ogystal â’r gystadleuaeth bêl-droed, byddan nhw’n edrych yn ofalus arnon ni hefyd.

“Rwy’n ymroddedig i atgyfnerthu’r cyfleoedd amrywiol y mae gan Gymru i’w cynnig, ac i dynnu sylw at lwyddiant buddsoddwyr presennol sydd â hanes hir a llwyddiannus o gynnal busnes yng Nghymru.

“Gobeithio y bydd y sawl sy’n mynd i’r digwyddiad hwn yn gweld sut mae’r buddsoddiad diweddar o ran isadeiledd mewn band llydan chwim, cyfathrebu symudol a rhaglen £2 biliwn llywodraeth y DU i foderneiddio’r rhwydwaith trenau yn gwneud Cymru’n lleoliad atyniadol, cystadleuol a chanddi gysylltiadau ar gyfer busnesau ledled y byd.

“Rwy am sicrhau bod cwmnïau Cymreig yn manteisio ar gyfleoedd sy’n cael eu cynnig oherwydd y Gemau Olympaidd yn Llundain. Mae’r digwyddiad heno yn gyfle gwirioneddol i arddangos popeth sy’n wych am ein gwlad i helpu i gyflwyno buddiannau economaidd tymor hir i’r economi.”