I ddathlu hanner can mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith, bydd siop tsips o Gas-gwent yn mabwysiadu arwyddion dwyieithog.

Cafodd yr arwyddion eu rhoi i fyny ddydd Sadwrn yn siop sglodion Beaufort Square ac mae’n debyg mai hon yw’r siop Gymraeg gyntaf i rywun weld wrth groesi’r ffin i mewn i Gymru o Loegr.

Mae perchennog y siop, Keith Beynon, a’i wraig Sarah, wedi bod yn annog y staff a’r cwsmeriaid i ddefnyddio’r iaith Gymraeg.

Dywedodd Keith Beynon, sy’n dysgu Cymraeg, fod yr iaith yn fanteisiol i fusnes.

“Rydym ni’n eithriadol o falch o’n Cymreictod a’r iaith Gymraeg yn yr ardal yma,” meddai Keith Beynon wrth y South Wales Argus.

“Ry’n ni llai na milltir o’r ffin gyda Lloegr, ond yn gweld yr iaith Gymraeg fel mantais fawr i’r dref.”