Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd
Mae capten tîm Prydain wedi ymbil ar y dorf yng Nghaerdydd i beidio bwio’r anthem pan fydd tîm GB yn chwarae yno nos Fercher.

Mae Ryan Giggs wedi cydnabod na fydd pawb yn y dorf yng Nghaerdydd yn debygol o ymateb yn wresog i anthem Lloegr a Phrydain yn stadiwm cenedlaethol Cymru.

“Dwi’n gobeithio na fydd y dorf yn bwio ac y bydd pawb y tu cefn i ni,” medd cyn-gapten Cymru a sgoriwr hynaf pêl-droed Olympaidd ar ôl ei gôl neithiwr.

“Mae’n golygu llawer i’r bois o Gymru i gael chwarae yn ein stadiwm ein hunain, ar ein patshyn ni, felly bydd hi’n achlysur mawr.”

‘Tîm GB – anthem GB’

Mae llefarydd ar ran Gemau Llundain wedi cadarnhau wrth Golwg360 na fydd Hen Wlad fy Nhadau yn cael ei chanu cyn gêm Prydain yn erbyn Uruguay.

“Tîm GB sy’n chwarae, ac anthem GB fydd yn cael ei chanu cyn y gêm” meddai llefarydd ar ran Locog.

Mae chwaraewyr Cymru wedi cyfrannu i lwyddiant tîm pêl-droed Prydain hyd yn hyn, gyda Giggs, Craig Bellamy, Joe Allen, Neil Taylor ac Aaron Ramsey yn amlwg iawn, ond mae eu diffyg cyfraniad adeg canu’r anthem wedi denu sylw. Hyd yma mae’r Cymry wedi cadw eu cegau ar gau yn ystod God Save the Queen.

Mae angen gêm gyfartal ar dîm Prydain nos Fercher er mwyn mynd ymlaen i’r chwarteri.