Ffrwydrodd silindr nwy yn Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr, bore ma.
Cafodd tŷ a charafán ar Jubilee Crescent eu difrodi gan y ffrwydrad.
Galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru toc cyn 3.50pm.
Roedd y garafán wedi ei ddifrodi yn wael, ac roedd rhywfaint o ddifrod i flaen y tŷ, medden nhw.