Cafodd dyn ei anafu pan wrthdarodd dau sgwter môr ger arfordir Ynys Môn ddoe.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau’r ynys bod dyn yn ei 20au wedi ei anafu, a bod un sgwter yn cael ei lywio gan fachgen 13 oed nad oedd wedi ei hyfforddi i’w ddefnyddio.
Doedd ganddo ddim yswiriant i ddefnyddio’r peiriant chwaith.
Roedd sgwter o’r fath yn beiriant peryglus yn y dwylo anghywir, a bod angen i oedolion gadw llygad ar blant oedd yn eu defnyddio, medden nhw.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ger Traeth Bychan, rhwng Benllech a Moelfre.
Aethpwyd a’r dyn i Ysbyty Gwynedd ag anafiadau i’w goes.