Gwiber
Cafodd dyn ei frathu gan neidr ar ôl iddo geisio cydio ynddi wrth fynd am dro yn Sir Benfro.
Roedd y dyn 39 oed o Henffordd yn cerdded ger Tŷ Ddewi pan cafodd ei frathu gan y wiber.
Dywedodd llefarydd ar ran gwylwyr y glannau ei fod wedi cerdded raw at Draeth-mawr gerllaw a rhoi gwybod iddyn nhw.
Aethpwyd ag ef i Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.