Llys Ynadon Llanelli
Mae plismon wedi ymddangos gerbron ynadon Llanelli heddiw ar gyhuddiad o ddinoethi ei hun i ferch a oedd wedi mynd ato i roi gwybod am drosedd.

Mae’r Ditectif Gwnstabl Jeffrey Davies, 41, hefyd yn wynebu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus. Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud â honiadau iddo gyffwrdd â merched trwy eu dillad wrth ei waith fel plismon.

Mae Jeffrey Davies  hefyd yn wynebu pedwar cyhuddiad o ddefnyddio cyfrifiaduron yr heddlu i ymchwilio i mewn i gefndiroedd ei ffrindiau Facebook.

Ar y pryd roedd yn blismon gyda Heddlu De Cymru yng ngorsaf Merthyr Tudful.

Dywedodd ei gyfreithiwr, Tony Williams, fod Jeffrey Davies yn “gwadu’n chwyrn” y saith cyhuddiad.

Mae ynadon Llanelli wedi gwrthod awdurdod dros yr achos ac mae disgwyl i wrandawiad ar 6 Medi drosglwyddo’r achos i Lys y Goron Abertawe. Mi gafodd Jeffrey Davies ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

.