Russell Watson

Cyhoeddwyd enwau’r artistiaid a fydd yn serennu yng nghyngherddau nos Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen.

Lulu a’i gwesteion fydd yn agor yr wythnos, gyda chyngerdd Gala ar y nos Lun.

Russell ‘Y Llais’ Watson fydd yno ar y nos Fawrth a’r band ifanc McFly fydd yn cloi’r digwyddiadau ar y nos Sul.

Mae’r Eisteddfod yn dathlu ei phenblwydd yn 65 eleni, ond dywedodd Cyfarwyddwr Cysylltiadau Cyhoeddus yr Wyl, Stifyn Parri, eu bod am drefnu digwyddiadau ffres ac amrywiol.

” Yn sicr dydy’r Eisteddfod ddim am ymddeol, 65 neu beidio! Mae amrywiaeth dulliau cerddorol yma eleni fel pob blwyddyn ac am un wythnos yn yr haf, bydd y dref yma yng Nghymru yn gartre i’r enwau mwya.”

Mae’r Eisteddfod yn agor ar Nos Lun 4 o Orffennaf.