Paratoi at yr Orymdaith Fawr yn 2010
Mae’r Sioe Fawr yn Llanelwedd yn anelu at dorri’r record tyrfaoedd heddiw ar ôl tri diwrnod cynta’ o brysurdeb mawr.

Dim ond tyrfa o ychydig tros 50,000 sydd ei hangen i dorri’r record o fwy na 240,000 a grëwyd yn 2006.

Ond mae’r trefnwyr yn rhybuddio pobol i fod yn ofalus gyda’r gwres eto heddiw, ar ôl i tua 500 o bobol orfod cael triniaeth ddoe.

Er bod disgwyl tywydd braf wedi i’r niwl cynnar glirio, mae posibilrwydd o rai cawodydd yn yr ardal yn ystod y dydd.

Y tyrfaoedd hyd yn hyn

Fe ddaeth bron 70,000 i’r maes ar y trydydd diwrnod, gan ddilyn 65,000 ddydd Mawrth a 54,000 ddydd Llun.

Mae’r ffigurau’n gyson uwch nag yn y blynyddoedd diwetha’ er bod llawer o ffermwyr wedi gorfod cadw draw oherwydd problemau tywydd gyda’r cynhaeaf gwair.

Yr Orymdaith Fawr o’r holl enillwyr fydd un o’r prif atyniadau heddiw.