Fe fydd plisman yn ymddangos o flaen ynadon heddiw wedi’i gyhuddo o sawl trosedd rywiol.

Comisiwn Cwynion yr Heddlu oedd yn rheoli’r ymchwiliad i weithgareddau’r Ditectif Gwnstabl  Jeffery Davies o Orsaf yr Heddlu, Merthyr Tudful.

Fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli i wynebu cyfanswm o  wyth cyhuddiad – dau o ymosod yn rhywiol, un o ddinoethi anweddus a phump o dorri’r Ddeddf Gwarchod Gwybodaeth.

Mae Jeffery Davies, sy’n 41 oed, yn gweithio i Heddlu De Cymru.