Mae trefnwyr y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd wedi dweud fod 69,639 o bobol wedi mynd trwy’r clwydi erbyn 3 o’r gloch heddiw.

Dyma un o’r torfeydd mwyaf erioed i ymweld â’r Sioe yn Llanelwedd, ac mae’r trefnwyr yn dweud eu bod nhw’n anelu at dorri’r record ar gyfer y nifer fwyaf erioed i fynd i’r sioe pedwar diwrnod – aeth cyfanswm o 240,140 o bobol yn 2006.

Mae bron 190,000 o bobol wedi mynd i’r sioe yr wythnos yma, er bod y tywydd braf prin wedi golygu bod rhai ffermwyr wedi aros adre i wneud silwair a gwair.

Yn draddodiadol Dydd Mercher yw diwrnod mwyaf y Sioe, a diwrnod y Cobiau Cymreig.