Keith Davies
Mae costau Aelod Cynulliad Llanelli, Keith Davies, yn datgelu ei fod wedi gwario mwy nag unrhyw AC arall ar aros mewn gwestai.

Fe fydd y ffigyrau yn fwy o gur pen i’r AC wedi iddo orfod ymddiheuro am “y cywilydd cyhoeddus” a ddilynodd digwyddiad mewn gwesty pum seren ym Mae Caerdydd ym mis Ebrill.

Roedd yn aros yng Ngwesty Dewi Sant ym Mae Caerdydd ar gost y Cynulliad ac fe gwynodd rhai o’r gwesteion eraill am ei ymddygiad ef a dynes a oedd wedi dychwelyd gydag ef er mwyn “mwynhau rhagor o ddiod.”

Datgelwyd heddiw ei fod yr AC 71 oed wedi gwario £4,846 ar aros mewn gwestai dros gyfnod o 10 mis. Roedd hynny dros £2,000 yn fwy nag unrhyw Aelod Cynulliad arall yn y cyfnod ers i bedwerydd tymor y Cynulliad ddechrau ym mis Mai’r llynedd.

Hawliodd y Democrat Rhyddfrydol William Powell £2,647 er mwyn aros mewn gwestai, a’r Ceidwadwyr Antoinette Sandbach £2,527, a’r Ceidwadwr Janet Finch-Saunders £2,153.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur bod ACau eraill yn hawlio llawer mwy er mwyn rhentu fflatiau yn y brifddinas.