Aethpwyd â merch 15 oed i’r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl iddi gael ei tharo gan garreg ar yr Wyddfa.
Roedd y garreg wedi syrthio i lawr a’i tharo hi ar ei phen, meddai’r gwasanaethau achub.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ddoe pan oedd y ferch yn cerdded ar Lwybr Watkin.
Galwyd tîm achub mynydd Llanberis i helpu’r ferch. Ymatebodd hofrennydd RAF Sea King o’r Fali ar Ynys Môn, a’i hedfan hi i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.