Mae penaethiaid Heddlu Dyfed-Powys wedi addo y byddwn nhw’n parhau i frwydro yn erbyn cynlluniau Llywodraeth San Steffan i gael gwared ar eu hofrennydd.

Mae Llywodraeth San Steffan yn bwriadu disodli’r hofrennydd ag awyren adain sefydlog fel rhan o’u cynlluniau i greu Gwasanaeth Heddlu Awyr Cenedlaethol.

Cadarnhaodd swyddogion ar ran Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw’n chwyrn yn erbyn y newidiadau.

Maen nhw’n dadlau bod hofrennydd yn llawer mwy defnyddiol nag awyren yn Nyfed-Powys, sydd yn un o ranbarthau heddlu mwyaf y Deyrnas Unedig.

“Mae Dyfed-Powys yn cynnwys dros 350 milltir o arfordir, nifer o fynyddoedd, a chymunedau gwledig diarffordd,” meddai llefarydd.

“Rydyn ni’n cydnabod y byddai awyren yn rhatach na hofrennydd ac yn gallu hedfan am gyfnodau hirach.

“Ond mae gan awyren sawl gwendid hefyd – mae’n llawer anoddach ei lanio mewn lle diarffordd er mwyn arestio person, neu ddod o hyd i berson sydd ar goll.

“Yn ogystal â hynny nid yw awyren yn gallu trosglwyddo swyddogion arbenigol neu gŵn o un lle i’r llall.”

Toriadau

Mae Dyfed-Powys yn wynebu toriadau helaeth dros y blynyddoedd nesaf, wrth i Lywodraeth San Steffan geisio lleihau’r diffyg ariannol.

Ym mis Mai cyhoeddwyd y byddai yn rhaid torri’n ôl ar gostau werth £13m erbyn 2015.

Serch hynny, dywedodd cadeirydd Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys nad oedd cau’r gwasanaeth hofrennydd yn bris oedd yn werth ei dalu.

“Mae’r heddlu yn teimlo nad oes digon o ystyriaeth wedi bod i’r anghenion arbennig sydd gan Heddlu Dyfed-Powys ac rydyn ni’n galw ar y llywodraeth i ail ystyried cyn gynted a bo modd,” meddai.

Ychwanegodd swyddogion eu bod nhw newydd wario £1.5 miliwn ar orsaf awyr newydd ar gyfer eu hofrennydd ym Mhen-bre.

Fe fyddai yn anodd iawn defnyddio’r orsaf newydd ar gyfer unrhyw beth ond hofrennydd, medden nhw.