Mae Archesgob Cymru wedi cyfrannu i’r ddadl dros brisiau llaeth trwy ddweud y dylai siopwyr Cymru fod yn barod i dalu mwy am eu llaeth.

“Mae’n rhyfeddol fod pobol yn barod i dalu £1.98 am botel dwy litr o Coke ond yn dadlau dros bris llaeth, sy’n costio hanner y pris” meddai Dr Barry Morgan.

“Mewn rhai llefydd mae potel o ddŵr yn costio dwywaith yn fwy na phris potel o laeth organig. Mae’n warthus ac yn anfoesol ac mae’n gallu costio mwy i ffermwyr gynhyrchu’r llaeth nag y maen nhw’n ei gael am ei werthu.

“Rydym ni i gyd yn gyfrifol a mae’n rhaid i ni fod yn barod i dalu pris teg am gynnyrch o safon gan fod Masnach Deg yn dechrau adre” meddai Dr Barry Morgan.

Côd ymddygiad

Cyfarfu undebau amaeth a phroseswyr llaeth ar faes y Sioe yn Llanelwedd ddoe ac fe gytunon nhw ar gôd ymddygiad newydd a fydd yn golygu bod rhaid i archfarchnadoedd roi rhybudd i ffermwyr os ydyn nhw’n bwriadu newid eu prisiau.

Dydd Gwener dywedodd Brian Walters o Undeb Amaethwyr Cymru wrth Golwg360 y byddai’n hoffi gweld cyfraith gwlad yn rhoi pwysau ar yr archfarchnadoedd i dalu pris teg i ffermwyr, yn hytrach na chôd gwirfoddol.

“Mae’r archfarchnadoedd a phroseswyr y llaeth yn gwasgu’r ffermwyr ac ry’n ni’n gofyn am degwch,” meddai Brian Walters.

“Dy’n ni ddim eisiau i bobol gyffredin dalu mwy am eu llaeth, ry’n ni eisiau i’r cwmnïau mawrion dalu mwy o gyfran i ni.”

Mae’r Dirprwy Weinidog Amaeth Alun Davies wedi dweud y gallai’r Cynulliad ddeddfu ar fater prisiau llaeth os nad yw’r côd ymddygiad yn gweithio.