Y diweddar Brynle Williams
Cafodd Gwobr Goffa Brynle Williams ei hennill am eleni gan Siôn Thomas Williams o Lansawel yn Sir Gaerfyrddin

Derbyniodd y ffermwr ifanc y wobr brynhawn yma gan Ddirprwy Weinidog Amaeth Cymru, Alun Davies, a Mary Williams, gwraig y diweddar Brynle.

Cafodd y wobr ei sefydlu y llynedd gan Lywodraeth Cymru er cof am y cyn-Aelod Cynulliad Ceidwadol a oedd yn adnabyddus fel ffermwr ac fel ymgyrchydd yn erbyn prisiau tanwydd.

Mae’r wobr hefyd yn dathlu ffermwyr ifainc sydd wedi bod yn rhan o gynllun Cymorth i Newydd-ddyfodiaid sy’n eu cynorthwyo i ddechrau yn y diwydiant amaeth.

Yn gydradd ail yn y gystadleuaeth oedd Moi Ellis Dafydd, Iolo Llwyd Evans, Richard Norton Lewis a Dora Ann Eynon.


Yr enillydd

Sicrhaodd Sion Thomas Williams a’i wraig Claire denantiaeth 10 mlynedd ar fferm Beili Ficer, Llansawel ger Llandeilo  ym mis Hydref 2010, ar ôl graddio o Brifysgol Harper Adams.

Mae ganddyn nhw dros 1,000 o ddefaid, diadell bedigri o 50 Texel a diadell fechan o Charollais pedigri.

Dywedodd Alun Davies fod y wobr yn rhoi “gwaddol” i waith Brynle ym myd amaeth a bod safon yr ymgeiswyr wedi bod yn uchel.

“Yr enillydd, Siôn Thomas Williams, yw’r math o ffermwr ifanc, arloesol yr ydym am weld yn ffynnu yn niwydiant amaethyddol Cymru,” ychwanegodd Alun Davies.


Sion Thomas Williams yn derbyn ei wobr