Mae’r heddlu yn galw am lygaid-dystion ar ôl i ddyn gael ei anafu yn ddifrifol yn mewn ymosodiad.

Mae ditectifs yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymchwilio i ymosodiad difrifol a ddigwyddodd ar Cunard Row, Cwmafan, ger gwesty Tŷ Cwmafan tua 10.55pm neithiwr.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod dyn 37 oed wedi dioddef anafiadau difrifol ar ôl cael ei daro yn ei ben.

Mae yn Ysbyty Treforys, Abertawe, ar hyn o bryd mewn cyflwr difrifol.

Mae llanc 16 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad â beth ddigwyddodd ac mae wedi ei gadw yn y ddalfa yng Ngorsaf Heddlu Castell-nedd.

“Mae’n ymddangos fod hwn yn ymosodiad direswm, ac mae gan y dioddefwr 37 oed anafiadau difrifol i’w ben yn ei sgil,” meddai’r Ditectif Arolygydd David Hough.

“Rydyn ni’n credu fod nifer o bobol a allai fod wedi gweld yr ymosodiad. Rydyn ni’n galw arnyn nhw i gysylltu gyda ni.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu De Cymru ar 101 neu 01656 655555, neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.