Grid gwartheg
Mae Cyngor Ceredigion wedi beirniadu gyrrwyr 4×4 am achosi i ddefaid grwydro trwy beidio cau clwydi.

Mae’r cyngor sir a’r Comisiwn Coedwigaeth wedi gorfod gosod gridiau gwartheg uwchben Ystrad Fflur am fod clwydi yn cael eu gadael ar agor.

Bu defaid yn crwydro’n rhydd yn y goedwig ac roedd hi’n anodd i’w rheoli nhw meddai prif beiriannydd cynnal a chadw Cyngor Sir Ceredigion, Phil Jones.

‘Achoswyd y broblem gan aelodau o’r cyhoedd, yn enwedig pobol sydd yn ymddiddori mewn 4X4, am nad oedden nhw’n cau gatiau ar yr heol gyhoeddus,” meddai Phil Jones.

“Un dewis oedd codi ffens newydd o gwmpas cannoedd o erwau er mwyn cadw’r defaid o dir Comisiwn Coedwigaeth Cymru.

“Yn ogystal â bod yn ddrud, ni fyddai hyn yn helpu ffermwyr lleol a fyddai’n parhau i golli defaid.”

Roedd Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi cynnal arolwg o farn ffermwyr lleol ac roedd y ffermwyr o blaid gosod gridiau gwartheg.

Mae pedwar grid gwartheg wedi cael eu gosod ar y mynydd uwchben Ystrad Fflur ac mae Cyngor Sir Ceredigion a’r Comisiwn Coedwigaeth wedi rhannu’r gost.