Ynys Môn yw’r rhan hapusaf o Gymru, a’r pumed lle hapusaf yn y Deyrnas Unedig gyfan, yn ôl arolwg newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Roedd Ynys Môn hefyd yn yr ail safle ar draws y Deyrnas Unedig o ran cyfartaledd y bobol oedd yn credu fod eu bywydau yn werth chweil.

Mae’r indecs hapusrwydd a gomisiynwyd gan David Cameron yn awgrymu bod ynysoedd yn llefydd hapus iawn ar y cyfan.

Y llefydd hapusaf yn y Deyrnas Unedig yn ei gyfanrwydd yw Ynysoedd Erch a Shetland yn yr Alban.

Yng Nghymru, mae Sir y Fflint yn yr ail safleo ran hapusrwydd, a Chardis Ceredigion yn drydydd.

Siroedd y Cymoedd, sef Torfaen, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, a’r Rhondda sydd ar waelod y tabl yng Nghymru.

Torfaen yw’r chweched lle mwyaf diflas yn y Deyrnas Unedig, a Merthyr Tudful yw’r nawfed mwyaf diflas.

Yn ôl y tabl 7.4 allan o 10 yw cyfartaledd hapusrwydd poblogaeth Cymru, yr un cyfartaledd a Lloegr, ac 0.01 yn llai na chyfartaledd y Deyrnas Unedig yn ehangach.

Ond mae’r Alban a Gogledd Iwerddon yn hapusach – y Sgotiaid ar 7.48 a Gogledd Iwerddon ar 7.54.

Ond mae pobol Ynys Môn yn rhoi 7.76 allan o 10 i’w hunain ar gyfartaledd, gan olygu mai nhw yw’r bobol hapusaf yng Nghymru, a’r pumed hapusaf yn y Deyrnas Unedig.

Ar draws Prydain, Swydd Aberdeen yn yr Alban sydd yn yr ail safle, Rutland yn nwyrain canolbarth Lloegr yn y trydydd safle, a Highland yn yr Alban yn bedwerydd.

Cymru 7.40
Ynys Môn 7.76
Sir y Fflint 7.67
Ceredigion 7.64
Powys 7.61
Sir Fynwy 7.56
Sir Benfro 7.55
Gwynedd 7.50
Bro Morgannwg 7.48
Wrecsam 7.47
Sir Ddinbych 7.45
Pen y Bont ar Ogwr 7.39
Caerdydd 7.38
Conwy 7.34
Sir Gaerfyrddin 7.33
Castell-nedd Port Talbot 7.31
Caerffili 7.31
Casnewydd 7.30
Abertawe 7.26
Rhondda, Cynon, Taff 7.26
Blaenau Gwent 7.24
Merthyr Tydful 7.17
Torfaen 7.12