Paul Flynn
Mae Aelod Seneddol Llafur blaenllaw wedi dweud mai’r uchafbwynt ym mywyd byr Llywodraeth y Cynulliad oedd y glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Dywedodd Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn, fod Cymru ar ei hennill pan mae Llafur a Phlaid yn cydweithio yn hytrach na’n “chwarae gemau pleidiol.”

“Mae’n amhosib cael mwyafrif yn y Cynulliad ac mae angen i bleidiau gyd-weithio er mwyn gweithredu eu polisïau” meddai Paul Flynn wrth Golwg360.

“Fel arall mae’n bosib cael gridlock gyda phleidiau’n ceisio byw o ddydd ac yn colli golwg ar y tymor hir.

“Does dim llawer o wahaniaeth beth bynnag rhwng Llafur, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol.”

Gwadodd Paul Flynn fod ei honiad – mai uchafbwynt y Cynulliad oedd y glymblaid – yn feirniadaeth ar y llywodraeth Lafur bresennol.

“Y realiti yw bod rhaid cydweithio,” meddai.

Helynt Dafydd El

Ar fater y bleidlais o ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd wythnos ddiwethaf, dywedodd Paul Flynn fod Dafydd Elis-Thomas yn gywir i “ffoi i Fangor a chondemnio’r ymaflyd plentynnaidd a fydd yn gwneud dim ond niweidio gwleidyddiaeth Cymru a buddiannau Cymru.”

Yn ôl Paul Flynn mae’n gywir i bortreadu Plaid Cymru fel “cŵn bach sy’n chwarae’r ail feiolin i’r Ceidwadwyr.”

“Nid yw Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn lladd ar ein gwlad. Felly pam bod Plaid yn y Cynulliad wedi dilyn y stynt Toriaidd a thanseilio ffydd yn y Gwasanaeth Iechyd Cymreig?” gofynnodd Paul Flynn.

Beirniadodd Paul Flynn ymosodiadau’r Ceidwadwyr yn Llundain ar wasanaeth iechyd Cymru, a dywedodd mai “celwydd yw’r honiad fod y gwasanaeth yng Nghymru yn israddol.”

Yn ddiweddar mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn San Steffan, Andrew Lansley,  wedi beirniadu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ar lawr y senedd yn San Steffan.

Yr wythnos ddiwethaf dywedodd fod rhestrau aros Lloegr yn is na rhai Cymru, a fis diwethaf dywedodd fod gan Lywodraeth Cymru “sawl her ddifrifol” ym maes iechyd ac y dylen nhw ddilyn yr hyn mae llywodraeth Llundain yn ei wneud.