Mae cynllun newydd fydd yn rhoi hwb i boblogaeth gwenyn Cymru wedi ennill cefnogaeth amgylcheddwyr.
Cyhoeddodd fweinidog amgylcheddol Cymru, John Griffiths, fanylion Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio yn ystod y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
Mae’r cynllun yn rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i atal y dirywiad ym mhoblogaeth y gwenyn mêl, gwenyn cadw a phryfed hofran, sydd oll wedi gweld dirywiad difrifol dros y 30 mlynedd ddiwethaf.
Bydd y cynllun gweithredu’n cael ei ddatblygu mewn partneriaeth ag asiantaethau allweddol, a gallai gynnwys:
• Newidiadau i’r system gynllunio a fyddai’n helpu i sicrhau bod datblygiadau’n ‘gyfeillgar i bryfed sy’n peillio’
• Plannu mwy o blanhigion ‘cyfeillgar i bryfed sy’n peillio’ ledled yr ystâd gyhoeddus, gan gynnwys argloddiau rheilffyrdd ac ymylon ffyrdd
• Cydweithio gydag awdurdodau lleol i reoli parciau a mathau eraill o ofod gwyrdd cyhoeddus
• Annog planhigfeydd i werthu planhigion ‘cyfeillgar i bryfed sy’n peillio’ a rhoi cyngor i ddefnyddwyr
• Adeiladu sylfaen o dystiolaeth ynghylch effaith plaladdwyr drwy gydweithio gyda Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
• Gweithio’n agos gyda Chymdeithas Gwenynwyr Cymru a grwpiau gwirfoddol eraill.
Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn dechrau ar y gwaith o ddatblygu’r cynllun ar y cyd ag asiantaethau a sefydliadau perthnasol, medden nhw.
Peillio ai peidio
“Rydyn ni’n gwybod bod ugain y cant o dir dan gnwd y Deyrnas Unedig yn cynnwys cnydau sy’n dibynnu ar bryfed sy’n peillio,” meddai’r gweinidog yn ystod ymweliad â stondin Cymdeithas Gwenynwyr Cymru.
“Mae cyfran uchel o flodau gwyllt yn dibynnu ar bryfed i’w peillio er mwyn atgenhedlu; ac yn ôl amcangyfrif ceidwadol mae’r pryfed werth £430 miliwn y flwyddyn i Lywodraeth y DU. Felly mae peillio yn wasanaeth hanfodol bwysig i’r ecosystem.
“Er gwaethaf eu pwysigrwydd, mae niferoedd y pryfed peillio wedi bod yn gostwng dros y 30 mlynedd diwethaf, ac rydyn ni’n gwybod y bydd y duedd hon yn parhau os na fyddwn yn gweithredu ar frys.
“Dyna pam rwy’n edrych ar ffyrdd o arafu a gwyrdroi’r gostyngiad yn niferoedd y pryfed sy’n peillio, a’r rheswm dros fy ymrwymiad i fynd i’r afael â’r mater.
“Bydd Cymru’n arwain y ffordd ar y mater hwn, a’n Llywodraeth ni fydd y cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynhyrchu Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio.”
Dywedodd ymgyrchydd Cyfeillion y Ddaear, Bleddyn Lake eu bod nhw’n falch iawn bod y Llywodraeth yn helpu i amddiffyn gwenyn, sy’n dirywio’n ddifrifol ledled y wlad.
“Mae miloedd o bobl eisoes yn cefnogi’n hymgyrch, The Bee Cause, sy’n galw am weithredu ar golli cynefinoedd a defnydd o blaladdwyr,” meddai.
“Mae angen cymorth a chyngor ar ffermwyr, cynghorau a chymunedau i amddiffyn y pryfed peillio hanfodol hyn – byddai treian o’n bwyd yn diflannu hebddynt, ac fe fyddwn yn talu pris drud iawn os byddwn yn eu colli.
“Mae’n wych bod Cymru mor flaengar yn gweithredu i amddiffyn ein hamgylchedd ac arbed miliynau o bunnoedd i’n heconomi – rhaid i weddill y Deyrnas Unedig ddilyn yn gyflym.”