Mae dyn a dynes wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i ddyn 43 oed gwympo yn dilyn ffrae.

Fe fu farw Jonathan Sillett yn Beach Road, Prestatyn, brynhawn dydd Sadwrn, meddai’r heddlu. Mae ymchwiliad post mortem yn mynd rhagddo.

Mae dyn 22 oed a dynes 21 oed o’r ardal yn cael eu holi.

Dywedodd yr heddlu ddoe  bod dyn wedi marw yn dilyn ffrae â phobol oedd mewn cerbyd.

Fe gwynpodd y dyn gerllaw ble yr oedd carnifal Prestatyn wedi ei gynnal yn gynharach yr un diwrnod.

Mae’r heddlu wedi galw ân wybodaeth gan unrhyw un a welodd beth ddigwyddodd.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 neu Daclo’r Tacle ar 0800 555 11.