Mae dyn wedi cael ei wahardd rhag mynd i gemau pêl-droed am dair blynedd ar ôl ymosod ar gefnogwr arall yn Abertawe.

Ymosododd Michael James Griffiths ar ddyn 76 oed yn nhoiledau’r stadiwm ar ôl ffrae yn ymwneud â pheint o gwrw yn ystod gêm rhwng Abertawe a Newcastle y tymor diwethaf.

Cafodd y dyn 76 oed ei wthio yn ei gefn ac fe gwympodd yn erbyn wal.

Cafodd Michael James Griffiths orchymyn cymunedol am 12 mis, a bu’n rhaid iddo weithio’n ddi-gyflog am 60 awr, a chafodd ei orfodi i dalu £50 i’r dyn.

Doedd Griffiths ddim yn y llys ddydd Gwener i glywed yr achos yn ei erbyn.

Mae ganddo hanes o drais, gan gynnwys bwrw cymydog yn erbyn wal mewn ffrae y tu allan i’w cartrefi, torri ffenest car mewn tagfa a bwrw ei wraig â’i ben a cheisio’i thagu.

Does ganddo ddim hawl i fod o fewn 2,500 metr i gae pêl-droed hyd at bump awr ar ôl diwedd gemau.