Mae siopau yng Nghaerdydd wedi annog yr heddlu i ail-gyflwyno deddf er mwyn atal pobl ddigartref rhag aros ar y strydoedd yn ystod y Gemau Olympaidd.

Cafodd deddf ei chyflwyno ym 1824 yn ystod y Rhyfel Napoleonaidd er mwyn anghyfreithloni cysgu ar y stryd.


Yn ôl y ddeddf, gallai unrhyw ‘ddihiryn’ sy’n cael ei ddarganfod ar y stryd gael ei garcharu am hyd at dri mis.

Mae’r heddlu Metropolitan yn Llundain wedi defnyddio’r ddeddf o’r blaen.

Mae siopwyr yn dadlau y gallai gweld pobl yn cysgu ar y stryd roi camargraff i ymwelwyr.

Dywedodd y llefarydd ar ran Partneriaeth Fasnach Caerdydd, David Hughes-Lewis: “Os yw hon yn ddeddf sy’n dal i fodoli ac os nad yw Heddlu De Cymru’n gwneud defnydd ohoni, yna’r cwestiwn yw ‘pam’?

“Os ydyw yno i gael ei defnyddio ac os yw’r Met yn ei defnyddio, yna fe ddylen ni hefyd.”

Mae Caerdydd yn prysur ddod yn lloches i bobl ddigartref, gyda chynnydd yn y llety sydd ar gael yn y ddinas.

Agorodd hostel newydd yr wythnos diwethaf, gyda lle i 67 o bobl.