Cafodd wyth criw eu galw yn dilyn tân mewn ffatri yn Stad Ddiwydiannol Wrecsam brynhawn ddoe.

Cyrhaeddodd y gwasanaethau brys tua 1.45yh yn Ball Packaging Europe Ltd ar Bridge North Road.

Bu’r criw yn ymladd y tân drwy gydol y prynhawn er mwyn dod â’r fflamau o dan reolaeth gan orffen erbyn tua’r nos.

“Cafodd criwiau eu galw i’r digwyddiad i daclo’r tân sydd, mae’n ymddangos, wedi dechrau mewn ffwrn halltu ddiwydiannol arbennig,” meddai llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Roedd criwiau o Wrecsam, Rhyl, Llangollen, Y Waun, Johnstown a Glannau Dyfrdwy wedi’u galw i ddelio â’r tân.

Mae’r difrod yn cael ei asesu ac mae ymchwiliad wedi cychwyn i ddarganfod beth oedd achos y tân.