John Griffiths
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhybuddio y gallai ymrwymiad cyrff cyhoeddus i’r iaith gael ei israddio o ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd yn ymwneud â datblygu cynaliadwy.
Mae’r Gweinidog Amgylchedd John Griffiths yn paratoi i gyflwyno Bil y flwyddyn nesaf a fyddai’n gwneud datblygu cynaliadwy yn ‘prif egwyddor drefniadol’ ar gyfer penderfyniadau strategol cyrff cyhoeddus.
Wrth ymateb i’r ymgynghoriad ar y Bil, mae’r Gymdeithas wedi rhybuddio bod y cynlluniau yn awgrymu na fydd lles y Gymraeg yn rhan o’r diffiniad statudol o ddatblygu cynaliadwy.
Mae’r mudiad yn pryderu bod y cynlluniau cynnar yn groes i ymrwymiad yn strategaeth iaith y Llywodraeth i “Prif ffrydio’r iaith o fewn ein holl waith sy’n ymwneud â chefnogi a datblygu cymunedau ledled Cymru.”
Yn ei ymateb i’r ymgynghoriad, medd y mudiad:“Mae’r Llywodraeth am wneud datblygu cynaliadwy yn “brif flaenoriaeth y dylid seilio penderfyniadau arni” a’r “prif egwyddor drefniadol”.
“Yn y cyd-destun hwnnw felly, mae’n hanfodol bod lles y Gymraeg yn rhan o ddiffiniad statudol datblygu cynaliadwy.
“Credwn hefyd ei fod yn bwysig bod y ddyletswydd yn un glir sydd yn golygu bod angen cyflawni dros y Gymraeg yn hytrach nag ei hystyried yn unig.
“Mae’r ddogfen yn sôn am ei wneud yn ofynnol i sefydliadau penodol weithredu’n gyson â’r egwyddorion datblygu cynaliadwy.
“Heblaw i’r Gymraeg fod yn rhan annatod o hynny, mae yna berygl y bydd cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill yn israddio eu hymrwymiadau i’r Gymraeg.
“Gan nad yw’r Gymraeg yn cael ei gosod fel egwyddor o ddatblygu cynaliadwy bydd sefydliadau yn cael yr argraff nad yw’r Gymraeg yn rhywbeth hanfodol ond yn rhywbeth ymylol.
“Er mwyn cael ei chymryd o ddifrif felly, rhaid i’r Gymraeg fod yn rhan greiddiol o’r diffiniad o gynaladwyedd a geir yn y ddeddfwriaeth.”
Cynaliadwy
Dywedodd Dr Hywel Griffiths, llefarydd cymunedau cynaliadwy y Gymdeithas, bod y Bil yn cynnig cyfle i’r iaith.
“Fe wnaethom ddweud yn narlith Tynged yr Iaith 2 llynedd fod y Gymraeg ar drai fel iaith gymunedol. Yn hynny o beth credwn bod angen i’r ddeddfwriaeth gydnabod yn ddiamwys bod yr iaith Gymraeg yn rhan hanfodol ac annatod o ddatblygu cynaliadwy.
“Rydym yn croesawu’r ffaith bod cyfle felly, trwy’r Bil arfaethedig hwn, i sicrhau y bydd pob penderfyniad a wneir gan gyrff cyhoeddus yn llesol i iaith unigryw Cymru.
“Mae’r rhan fwyaf o benderfyniadau a pholisïau – gan gynnwys datblygiadau tai ac ad-drefniadau addysg – yn cael effaith ar y Gymraeg; ac mae’r iaith wedi dioddef yn y gorffennol oherwydd penderfyniadau anghynaliadwy mewn nifer o feysydd.
“Mae hwn felly yn gyfle pwysig i sicrhau bod y Gymraeg yn elwa bob tro bydd cyrff yn gwneud penderfyniad. Mae hefyd yn gyfle i symleiddio penderfyniadau a fyddai’n osgoi trin y Gymraeg yn docenistaidd ac arwynebol.”