Bu’n rhaid i ddeg o bobol adael eu tai o ganlyniad i dân ar res o dai teras yn y Rhondda dros nos.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i Hillside Terrace, Aberllechau, am 11.30pm neithiwr.

Bu’n rhaid gwagio pedwar o’r tai a thywys y trigolion i fan diogel.

Anfonwyd chwe injan dân i’r stryd. Y gred yw bod y tân wedi dechrau mewn ystafell wely mewn tŷ gwag ac wedi lledaenu i’r tai eraill drwy doeau’r tai.