Y Sioe Frenhinol
Fe fydd ffermwyr yn cynnal cyfarfod pwysig gyda phroseswyr llaeth ar faes y Sioe Frenhinol heddiw er mwyn ceisio datrys yr anghydfod am bris llaeth.

Daw’r cyfarfod yn Llanelwedd heddiw wedi i weinidogion materion gwledig y Deyrnas Unedig alw ar y ddwy ochr i gytuno ar côd ymddygiad newydd.

Neithiwr roedd mwy na 2,000 o ffermwyr wedi cymryd rhan yn nhrydedd rownd ymgyrch yn erbyn pris llaeth, gan atal mynediad i ffatrïoedd yng Ngwlad yr Haf, Swydd Gaerwrangon, a Swydd Amwythig.

Ymunodd Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth Cymru, Alun Davies, gyda gweinidogion amaeth San Steffan a Senedd yr Alban, Jim Paice a Richard Lochhead, gan alw ar i’r ddwy ochor gytuno ar god ymddygiad newydd.

Fe fyddai yn cael ei adolygu ar ôl 12 mis er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio yn ymarferol.

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd y gweinidogion fod “y sector llaeth yn un o’n prif ddiwydiannau amaethyddol ac mae pob un o lywodraethau’r Deyrnas Unedig yn benderfynol fod ganddo ddyfodol cynaliadwy a phroffidiol”.

“Mae angen i’r diwydiant fynd i’r afael â’r mater pwysicaf ar hyn o bryd, sef pris llaeth, ond hefyd y strwythurau a mecanwaith a fydd yn sicrhau llwyddiant tymor hir y sector.”

Ymgyrch

Dywedodd James Badman, o’r grŵp ymgyrchu Ffermwyr o Blaid Gweithredu (FFA), nad oedd dewis â nhw ond protestio.

“Fe fyddwn ni’n parhau i wneud hynny nes ein bod ni’n sicrhau pris teg am ein cynnyrch,” meddai. “Dyma’r unig ddewis yn niffyg dim arall.”

Maen nhw’n rhybuddio y bydd cannoedd o ffermwyr llaeth yn colli eu gwaith, o ganlyniadau i doriadau ym mhris llaeth, a chynyddu ym mhris bwyd da byw.

Roedd tua 750 o aelodau’r mudiad wedi ymgyrchu ddydd Gwener y tu allan i laethdy Robert Wiseman yn Droitwich Spa, Swydd Gaerwrangon.

Mae uwchfarchnadoedd Co-operative a Morrisons wedi ymateb i’r ymgyrch drwy gynyddu faint y maen nhw yn ei dalu i ffermwyr am laeth.

Fe fydd Asda yn talu 2c ychwanegol y litr i ffermwyr llaeth o 1 Awst ymlaen.