Lladdwyd merch saith oed ac mae saith arall yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ar yr A548 yn Gwespyr, ger Prestatyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru bod naw o bobl yn teithio mewn dau gar pan ddigwyddodd y ddawmain am hanner dydd heddiw.

Cafodd y ffordd ei chau yn gyfangwbl er mwyn mynd a’r cleifion i’r ysbyty mewn ambiwlansys a hofrennydd.

Mae’r heddlu yn gofyn i yrrwyr osgoi’r ardal neu fynd ar hyd ffyrdd eraill oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd.

Does  dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.