Edwina Hart
Mae Gweinidog Busnes Llywodraeth Cymru, Edwina Hart yn bwriadu sefydlu uned benodol er mwyn codi ymwybyddiaeth o droseddau busnes a’u heffaith ar fusnesau Cymru.

Dywedodd Edwina Hart bod angen gwybodaeth a help ar fusnesau er mwyn amddiffyn ei hunain ac felly bydd teclynnau ar lein, seminarau a gweithgareddau cefnogi busnes yn cael eu creu er mwyn cynnig y gefnogaeth angenrheidiol.

“Bydd yr Uned yn darparu rhaglen weithredu er mwyn amddiffyn ac addysgu busnesau ar draws pob sector mewn atal troseddu busnes a seiberddiogelwch, a rhoi cyfle i fusnesau yn y Sector TGCh ychwanegu at eu portffolio o wasanaethau,” meddai.

Ychwanegodd Mrs Hart y byddai’r Uned yn gweithio i sicrhau bod lluoedd yr heddlu yng Nghymru yn ymwybodol o faterion arwyddocaol y  math yma o droseddu ac felly’n gallu cymryd camau pellach i helpu i amddiffyn busnes.

Bydd panel o arbenigwyr gyda chynrychiolwyr o fyd busnes, yr heddlu a’r Llywodraeth yn cael ei sefydlu i fod yn grŵp aml-asiantaeth er mwyn rhoi cyngor a chefnogaeth i lywio datblygiad yr Uned Troseddu yn erbyn Busnesau.