Mae Heddlu Gogledd Cymru yn trin marwolaeth gŵr 42 oed fu farw ar ôl ffrae ar Ffordd y Traeth ym Mhrestatyn fel un ‘amheus’.

Cafodd y heddlu alwad gan wraig ychydig cyn deg o’r gloch neithiwr (Sadwrn) yn dweud bod ceir yn cael eu gyrru’n igam ogam ar y ffordd. Fe gododd ffrae wedyn rhwng y teithwyr yn un o’r ceir a dyn wnaeth wedyn lewygu.

Galwyd am ambiwlans ond roedd y dyn wedi marw yn y fan a’r lle.

Mae’r heddlu yn dweud nad ydyn nhw’n gwybod beth achosodd ei farwolaeth hyd yma ond mae nhw’n trin y digwyddiad fel un amheus a wedi cychwyn holi o dŷ i dŷ.

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gan unrhyw wybodaeth neu welodd geir yn gyrru’n wirion i gysylltu efo nhw ar 101 neu yn ddi-enw trwy ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555111