Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi prynhawn ʼma y bydden nhw’n cynyddu’r nifer o’u swyddogion fydd yn rhan o wasanaethau diogelwch y Gemau Olympaidd.

Bydden nhw’n cael eu defnyddio yn Stadiwm y Mileniwm ac yn adnoddau hyfforddi’r athletwyr yn y brifddinas.

Dywedodd y Dirprwy Prif Gwnstabl Julian Kirby fod Heddlu De Cymru a’i bartneriaid wedi ymrwymo i sicrhau gemau diogel ar gyfer y cystadleuwyr, y rhai sy’n eu gwylio a phawb sy’n byw yn Ne Cymru.

“Ni fydd hyn yn cael effaith ar lefel ein gwasanaeth i gymunedau De Cymru,” meddai.

Mi roedden nhw wedi gofyn i’w swyddogion gyfyngu ar eu gwyliau yn ystod cyfnod y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, ychwanegodd.