Carl Sargeant
Bydd rhan o Ffordd Blaenau’r Cymoedd yn cael ei throi’n ffordd ddeuol ar ôl i gynllun £150m gael sêl bendith.

Mae’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth yn y Cynulliad, Carl Sargeant wedi cyhoeddi y bydd rhan 7.8 cilomedr o hyd rhwng Brynmawr a Thredegar yn cael ei llydanu.

Bydd y tair lôn bresennol yn troi’n ffordd ddeuol lawn a bydd llwybr beicio 3 cilomedr o hyd yn cael ei hadeiladu hefyd.

“Mae’r A465 yn briffordd hollbwysig yn ein rhwydwaith trafnidiaeth a dyma’r prif gysylltiad rhwng Gorllewin Cymru a Chanolbarth Lloegr” meddai Carl Sargeant.

“Bydd gwneud ffordd Blaenau’r Cymoedd yn ffordd ddeuol yn helpu i wella diogelwch, lleihau amseroedd teithiau i deithwyr a busnesau a chyfrannu at adfywiad ehangach y rhanbarth.”

“Bydd ffordd well ar gyfer Blaenau’r Cymoedd hefyd yn helpu i drechu tlodi yn yr ardal drwy wella’r cysylltiadau â safleoedd pwysig ar gyfer addysg, canolfannau iechyd a swyddi.”

Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau ar yr heol newydd yn niwedd 2012 a dod i ben erbyn 2015.

Mae disgwyl i welliannau eraill i Ffordd Blaenau’r Cymoedd ddechrau yn 2014 – rhwng Top Dowlais a’r A470, a rhwng Hirwaun a’r A470.